© Sam Hobson / WWF-UK

Ffermio dwys

Mae llawer o’n dulliau ffermio yn dinistrio’r natur y maen nhw’n dibynnu arnyn nhw

Allwn ni ddim byw heb fwyd, ac ni all ein system fwyd oroesi heb natur. Ond, mae ffermio dwys i gynhyrchu bwyd yn dinistrio’r byd natur y mae’n dibynnu arno. Mae’n rhaid i ni fabwysiadu dull gweithredu sy’n fwy ystyriol o natur er mwyn creu ffordd o ffermio sy’n gynaliadwy i fywyd gwyllt ac i ni hefyd.

Farming machinery and tractor in a field
RSPB

Bargen wael

Cafodd llawer o ddulliau ffermio heddiw eu dyfeisio i hybu cynhyrchu, yn hytrach nag fel rhan o system sydd hefyd yn deg ac yn fuddiol i fyd natur. Ac oherwydd y dulliau hyn, sy’n cael eu defnyddio ar draws ardaloedd eang o dir heb le i fywyd gwyllt ffynnu, rydyn ni wedi colli cymaint o’n glaswelltiroedd cyfoethog ei rywogaethau a’r bywyd gwyllt sy’n dibynnu arnyn nhw i oroesi.  

Mae pori dwys a thorri gwair yn aml yn tynnu planhigion blodeuol sy’n hanfodol i bryfed peillio ac yn amddifadu mamaliaid bach ac adar sy’n nythu ar y ddaear o loches. Mae’r dull hwn o ffermio hefyd yn achosi llygredd dŵr, yn amddifadu'r pridd o faetholion ac yn lleihau gallu’r tir i storio carbon.

Ers y 1970au, mae adar tir amaeth fel golfanod y mynydd a thurturod wedi gostwng dros 70% ac mae adar rydyn ni’n meddwl eu bod yn gyffredin, fel drudwennod, mewn perygl difrifol. Mae hyd yn oed rhywogaethau sy’n fuddiol i ffermio yn cael eu niweidio’n aml – mae 40% o wenyn a phryfed eraill sy’n peillio cnydau hefyd mewn perygl o ddiflannu yn y DU.

Mae dros 70% o’n tir yn cael ei ffermio yn y DU ac mae ein system fwyd ddomestig yn unig yn cyfrif am tua 20% o’n hallyriadau nwyon tŷ gwydr

 

Contextual wildflower meadow photograph featuring oxeye daisy.
© Joseph Gray / WWF-UK

Gyda natur

Mae dros 70% o’n tir yn cael ei ffermio yn y DU ac mae ein system fwyd ddomestig yn unig yn cyfrif am tua 20% o’n hallyriadau nwyon tŷ gwydr. Os bydd ffermio dwys yn parhau, bydd hyn yn cyflymu’r argyfwng hinsawdd ac yn bygwth ein gallu i dyfu bwyd yn y dyfodol.  

Un ateb yw dulliau ffermio sy’n ystyriol o natur. Mae hyn yn cydbwyso ein hangen am fwyd digonol a chynaliadwy ag anghenion y byd naturiol, gan gynnwys y frwydr yn erbyn newid yn yr hinsawdd. Mae’n dda i ni hefyd, gan fod y bwyd a gynhyrchir yn iachach ac yn fwy maethlon gyda llai o risg o weddillion plaleiddiaid.

Mae angen ffermio arnom i barhau i gynhyrchu bwyd i’n bwydo. Ond mae angen natur ar ffermio hefyd ar gyfer rheoli plâu, peillio a helpu i gynnal priddoedd iach. Mae rhoi natur wrth galon ecosystem yr holl dir fferm yn fuddugoliaeth sydd o fudd i’n glaswelltiroedd, ein bywyd gwyllt, ffermwyr ac, yn y pen draw, bob un ohonom.

Beth sy’n cael ei wneud?

Mae ateb i bob perygl, ac mae’r frwydr eisoes wedi dechrau i warchod ac adfer ein hynysoedd gwyllt. Cewch eich ysbrydoli gan y straeon hyn o obaith wrth i bob un ohonom chwarae ein rhan.