Gartref

Mae ein ynysoedd gwyllt yn gartref i rai cynefinoedd a bywyd gwyllt unigryw a gwirioneddol arbennig. Ond mae ein byd natur mewn argyfwng, a rhaid i bob un ohonom chwarae ein rhan i ddod ag ef yn ôl o ymyl y dibyn.

Mae gennym ni’r pŵer i wneud gwahaniaeth go iawn, ond rydyn mynd yn brin o amser. Rhaid inni weithredu, ar unwaith. Ym mhob eiliad o bob dydd, mae dewisiadau y gallwn ni eu gwneud – o sut rydyn ni’n siopa a beth rydyn ni’n ei fwyta i ble rydyn ni’n buddsoddi ein harian a sut rydyn ni’n codi llais dros fyd natur – er mwyn i bobl a natur allu ffynnu.

Gyda’n gilydd, gallwn Achub ein Hynysoedd Gwyllt a helpu i ddiogelu, adfer a gofalu am fyd natur ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol. Mae eich cefnogaeth yn bwerus: ymunwch â ni a gwneud gwahaniaeth.

Dyma ffyrdd y gallwch chi weithredu o’ch cartref eich hun heddiw...

Cycling and walking are ways people can reduce their impact on the environment
© David Bebber / WWF-UK

Mesur eich effaith

Ddim yn siŵr ble i ddechrau? Darganfyddwch eich effaith amgylcheddol drwy ddefnyddio cyfrifiannell ôl troed carbon WWF-UK, a dysgu mwy am y camau bach y gallwch eu cymryd i fod yn fwy ystyriol o’r hinsawdd a byd natur.

Mae gennym y pŵer i greu byd gwell drwy wneud newidiadau bach yn ein bywydau bob dydd. Ond allwn ni ddim gwneud hyn ar ein pen ein hunain. Rhaid i’r llywodraeth a chynghorau weithredu ar frys i ddiogelu ein system cynnal bywyd, a rhaid i fusnesau roi byd natur wrth galon pob penderfyniad yn ystafell y bwrdd.

Bee hive in garden, person reading in background
RSPB Images

Natur ar Garreg Eich Drws

Beth bynnag fo’ch ardal awyr agored, boed hynny’n falconi, yn fuarth, yn ardd neu’n flwch ffenestr, fe welwch awgrymiadau a chyngor arbenigol i’w wneud yn lle hapusach i chi, ac i’r byd natur ar garreg eich drws.

O dai chwilod ac adar i briffyrdd draenogod, gwnewch hi’n hawdd i fywyd gwyllt ffynnu ochr yn ochr â ni drwy gymryd rhan yng ngweithgareddau Natur ar Garreg Eich Drws yr RSPB.

Gardening in sunlight
RSPB Images

Cymryd camau bach

Gall yr argyfwng hinsawdd fod yn llethol, ond drwy gymryd camau bach fel unigolion, gallwn gyflawni newidiadau mawr a dangos i lywodraethau a busnesau pa fath o weithredu sydd ei angen. Mae sawl ffordd o wneud gwahaniaeth ac mae’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol wedi darparu ychydig o syniadau i’ch helpu i ddechrau arni.

Sut byddwch chi’n Mynd yn Wyllt Unwaith yr Wythnos?

Mae ein bywyd gwyllt yn anhygoel – ond mae mewn argyfwng. Mae WWF, yr RSPB a’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol yn gweithio gyda’i gilydd i achub byd natur. Mae angen pawb arnom. Dysgwch sut gallwch chi fynd yn wyllt unwaith yr wythnos, a gyda’n gilydd gallwn ni achub ein hynysoedd gwyllt.