© Mark Hamblin

Galwad frys

Mae gan bawb ran i’w chwarae

Mae bywyd gwyllt y DU yn anhygoel - ond mae mewn perygl. Dros y 50 mlynedd diwethaf, mae 38 miliwn o adar wedi diflannu o’n hawyr, mae 97% o’n dolydd blodau gwyllt wedi cael eu colli, ac mae chwarter ein holl famaliaid bellach mewn perygl o ddiflannu’n llwyr.

Allwn ni ddim sefyll o’r neilltu a gwylio’r dinistr yma’n parhau. Dyna pam mai Save Our Wild Isles yw’r ymgyrch fawr gyntaf ar y cyd rhwng WWF-UK, yr RSPB a’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol, sy’n galw am atal y broses o ddinistrio byd natur y DU ar unwaith a gweithredu ar frys i’w hadfer.

Gyda’n gilydd, gallwn ni i gyd chwarae ein rhan i ddiogelu ein byd naturiol – ein system cynnal bywyd. Os ydych yn caru byd natur, gweithredwch nawr!

Puffin (Fratercula arctica) with fish in beak, Saltee Island, Ireland June 2009
© Wild Wonders of Europe / Pal Hermansen / WWF

WWF-UK

WWF-UK yw’r elusen amgylcheddol fyd-eang sydd â’r nod o ddod â’n byd yn ôl yn fyw. Gyda byd natur yn dirywio’n gyflym, mae WWF-UK ar frys yn mynd i’r afael â’r achosion sylfaenol sy’n sbarduno’r dirywiad – yn enwedig y system fwyd a newid yn yr hinsawdd. Ochr yn ochr â’i gefnogwyr, mae WWF-UK yn dod o hyd i atebion i atal y dinistr ac i amddiffyn ac adfer byd natur, fel bod gan genedlaethau’r dyfodol fyd gyda chynefinoedd a bywyd gwyllt sy’n ffynnu.

Dysgwch fwy am WWF-UK a sut gallwch chi helpu i ddod â’n byd yn ôl yn fyw.

European starling (Sturnus vulgaris) flying from nest, UK
© naturepl.com / Stephen Dalton / WWF

RSPB

Mae’r RSPB yn gymdeithas ar gyfer gwarchod adar a byd natur, gan weithio i ddiogelu ac adfer amgylcheddau naturiol ac achub rhywogaethau. Mae hinsawdd a byd natur mewn argyfwng, ac mae rhywogaethau,  cynefinoedd a thirweddau unigol mewn perygl, ond gyda phobl, rydym yn darparu atebion i sicrhau bod y byd naturiol yn adfer, yn ffynnu ac yn blodeuo.

Red Squirrel (Sciurus vulgaris) in summer in woodland habitat, Cairngorms National Park, Scotland
© ScotlandBigPicture.com/ WWF-UK

Yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol

Yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol yw elusen gadwraeth fwyaf Ewrop a sefydlwyd ym 1895 i warchod treftadaeth a mannau agored y genedl i bawb eu mwynhau.

Gyda 5.7 miliwn o aelodau, mae’r Ymddiriedolaeth yn gofalu am fwy na 250,000 hectar o gefn gwlad, 780 milltir o arfordir, 500 eiddo hanesyddol a gerddi ledled Cymru, Lloegr a Gogledd Iwerddon, i’w cadw – i bawb, am byth.

Cyfres Deledu The Wild Isles

Bydd cyfres deledu’r BBC, Wild Isles, yn dod â byd natur y DU i’n sgriniau gyda mwy o ddrama, harddwch a sioe nag erioed o’r blaen.

Noddir Achub ein hynysoedd Gwyllt gan:

Air Wick

Nod Air Wick yw cysylltu pobl â byd natur. Dyna pam maen nhw wedi ffurfio partneriaeth â WWF i adfer 20 miliwn troedfedd sgwâr o gynefinoedd blodau gwyllt gwerthfawr yn y DU, ac maen nhw’n annog y cyhoedd ym Mhrydain i dreulio mwy o amser yn yr awyr agored.

Aviva

Mae’r DU yn un o’r gwledydd lle mae byd natur wedi dirywio fwyaf yn y byd, ond mae gobaith. Gyda’n gilydd gallwn helpu i ddod â byd natur yn ôl yn fyw. Dyna pam mae Aviva, gyda WWF a’r RSPB, yn lansio cronfa newydd sy’n rhoi £1 miliwn i gefnogi grwpiau cymunedol ledled y DU i weithredu dros fyd natur yn eu hardal leol.

Seidr Old Mout

Fel brand seidr a gychwynnodd yn Seland Newydd, mae Old Mout yn cael ei ysbrydoli gan fyd natur, felly maen nhw eisiau helpu i ofalu amdano. Dyna pam mae Old Mout wedi bod yn gweithio mewn partneriaeth â WWF ers 2019 i godi ymwybyddiaeth o bwysigrwydd natur a chefnogi prosiectau cadwraeth WWF yn y DU a ledled y byd.