© Ben Andrew (rspb-images.com)

Yn y Gwaith

Dod â byd natur i mewn i’ch busnes

Mae ein byd mewn trafferthion, a rhaid mynd i’r afael â bygythiad deuol newid yn yr hinsawdd a cholli byd natur ar frys. Ond mae gobaith, a gall busnesau arwain y ffordd at ddyfodol sero net a dyfodol sy’n gadarnhaol i fyd natur.

“Heb natur, ni fyddai dŵr glân, byddai trychinebau ym mhob man, ni fyddai cadwyn gyflenwi, a phe baech yn mynd ag ef i’r nfed gradd, ni fyddai cwsmeriaid.”

Deborah Meaden, Arweinydd Busnes a Buddsoddwr

Honey bee (Apis mellifera) hovering near Snowberry flowers (Symphoricarpos sp.) in Parade gardens park, with city buildings in the background, Bath, England, UK, June
© naturepl.com / Nick Upton / 2020VISION / WWF

Mae busnes yn dibynnu ar natur

Mae pob gweithgarwch busnes ac economaidd yn dibynnu ar natur. Ond mae’r argyfwng hinsawdd a natur yn ein taro ar lefelau na welwyd erioed o’r blaen. Ers 1970 mae poblogaethau bywyd gwyllt byd-eang wedi gostwng bron i 70%, ond mae 50% o’r cynnyrch domestig gros byd-eang yn dibynnu ar adnoddau naturiol.

Mae’r gostyngiad hwn mewn bioamrywiaeth yn newyddion ofnadwy i fusnesau ac mae’n achosi risgiau nas gwelwyd o’r blaen. Yn 2021 yn unig, roedd y golled economaidd o ganlyniad i drychinebau naturiol yn $270 biliwn. Rhaid i bob un ohonom weithredu’n awr i sicrhau dyfodol i fyd natur, i bobl ac i’r economi.

Gwnewch ef yn fusnes i chi

Dewch yn ôl ar 20 Ebrill i wylio ein pedair ffilm busnes Save Our Wild Isles a dysgu mwy am sut mae busnesau’n dibynnu ar fyd natur a’r camau y gallwch chi ddechrau eu cymryd i wneud gwahaniaeth.

Gydag arweinwyr busnes fel Deborah Meaden (Arweinydd Busnes a Buddsoddwr), y Fonesig Sharon White (Cadeirydd, Partneriaeth John Lewis), Ken Murphy (Prif Weithredwr y Grŵp, Tesco), Dr Steve Waygood (Pennaeth Swyddfa Fuddsoddi Cyfrifol, Aviva Investors), a llawer o leisiau blaenllaw eraill, rydym yn trafod sut mae’r argyfwng bioamrywiaeth yn ddrwg i fusnesau a sut, drwy weithredu, y gall busnesau helpu i droi’r llanw ar gyfer byd natur a thrawsnewid natur yn gyfle busnes hollbwysig.

Mae’n hanfodol bod ein busnesau’n rhan o’r ateb i’r argyfwng hinsawdd a natur, ac mae llawer o ffyrdd y gallwch chi ddechrau’r sgwrs yn y gwaith. Mae’r rhain yn cynnwys sgrinio ein ffilmiau – The Business of NatureBanking on a Wilder TomorrowHungry for Change a Catch 22– a rhannu adnoddau gwybodaeth a lawrlwythiadau eraill.

Sgriniwch ffilm fusnes Save Our Wild Isles

To get the conversation started in your workplace, screen one of our business films and add a Q&A with an expert. There are four films on key topics: food and farming, marine environment, finance and what businesses can do to move to a Nature Positive future.

The Business Of Nature

Heb fod yn Natur Bositif, yn y pen draw allwch chi ddim bod yn bositif o ran elw...

Banking On A Wilder Tomorrow

Mae’r ffilm hon, sydd wedi’i neilltuo i’r sector cyllid, yn edrych ar ffyrdd o ailddyrannu arian ar gyfer dyfodol Natur Bositif.

Hungry For Change

Os na fyddwn ni’n newid ein system fwyd, fyddwn ni ddim yn gallu bwydo ein hunain yn y dyfodol...

Catch 22

Os na fyddwn ni’n newid ein system fwyd, fyddwn ni ddim yn gallu bwydo ein hunain yn y dyfodol...

Cofrestru i gynnal dangosiad

I ddod yn fuan: O 20 Ebrill ymlaen, gallwch chi sgrinio unrhyw un o’n ffilmiau busnes Save Our Wild Isles yn y gwaith. Os byddwch yn cofrestru eich digwyddiad, gallwn ddarparu delweddau i’ch helpu i hyrwyddo eich digwyddiad ac efallai y gallwn gefnogi drwy ddarparu siaradwr. Dewch yn ôl yn fuan i weld pryd fydd ein tudalennau cofrestru’n mynd yn fyw.

Fly tipped waste including asbestos, toxic chemicals and other harmful pollutants dumped outside Seabank Power Station, Avonmouth.
© Sam Hobson / WWF-UK

Y gost uchel o wneud dim

Mae angen i ni weithredu dros fyd natur drwy ei roi wrth galon pob penderfyniad busnes a’n holl strategaethau busnes craidd. Mae gweithio gyda byd natur yn gwneud synnwyr busnes da hefyd – rhagwelir y bydd y gost o beidio â delio â’r argyfwng yn llawer mwy na’r buddsoddiad mewn atebion. Mae’n amser newid:

  • Rhaid i ni atal y niwed i fyd natur y mae busnesau a’r economi ehangach yn ei wneud
  • Rhaid i ni newid i ffordd o wneud busnes sy’n diogelu ac yn adfer byd natur
  • Gallwn harneisio pŵer byd natur i sicrhau economi ffyniannus i bobl a byd natur.

Register to host a screening

To find out more about hosting a screening, register your interest here. As well as receiving exclusive images from the films, we may be able to support you on the day with a speaker.