© Katie Nethercoat (rspb-images.com)

Eryrod Cynffonwyn

Un o’r adar ysglyfaethus mwyaf yn y byd

afodd eryrod cynffonwyn eu dileu’n llwyr yn y DU ar un adeg. Nawr, ar ôl degawdau o ailgyflwyno a monitro ac amddiffyn gofalus, maen nhw yma unwaith eto. Gyda’n help ni, gallan nhw barhau i ffynnu.

Adult white tailed sea eagle (Haliaeetus albicilla) in flight, Uist, Outer Hebrides, Scotland, UK
© Edward Makin (rspb-images.com)

Mawr a beiddgar

Gydag adenydd hyd at 2.5m, yr eryr cynffonwyn yw’r pedwerydd eryr mwyaf yn y byd. Mae’r ysglyfaethwyr hyn yn chwarae rhan hollbwysig yn ein hecosystem: fel sborionwyr, maen nhw’n helpu i lanhau gwastraff, ac fel helwyr, maen nhw’n helpu i gael gwared ar anifeiliaid gwan a sâl.

Maen nhw hefyd yn enwog am eu harferion deniadol ac yn hwb i’r diwydiant twristiaeth. Mae miloedd o bobl sy’n hoffi bywyd gwyllt yn heidio i lefydd fel Ynys Mull yn yr Alban, lle mae economi’r ynys wedi elwa o hyd at £8 miliwn y flwyddyn.

Pan oedden nhw’n gyffredin, roedden nhw’n cael eu hela’n aml gan giperiaid, bugeiliaid a pherchnogion pysgodfeydd, ac roedden nhw’n darged ar gyfer casglwyr wyau a chrwyn. Yn 1918, cafodd eryr cynffonwyn – y tybiwyd i fod yr olaf o’i fath – ei saethu a’i ladd yn Shetland, gan ddod yn symbol o ddifodiant.

Adult white tailed sea eagle (Haliaeetus albicilla) in flight, Isle of Mull, Scotland, UK
© Ben Andrew (rspb-images.com)

Brwydro’n galed i adfer

Ar ôl dechrau’n araf, bu rhaglen ailgyflwyno yn ynys Rum ar arfordir gorllewinol yr Alban yn llwyddiannus yn y 70au a’r 80au. Yn 1985, llwyddodd eryr cynffonwyn o’r enw Blondie i fagu cyw ar ynys Mull gerllaw – y cyntaf yn y DU ers dros 70 mlynedd. Oherwydd hyn a llwyddiannau eraill, amcangyfrifir bod gennym bellach 150 o barau magu yn y DU.

Maen nhw wedi cael eu hisraddio i Restr Oren y DU o ran Pryder ynglŷn â’u Cadwraeth, ond nid yw’r peryglon wedi diflannu’n llwyr. Mae angen gwarchod eryrod cynffonwyn a’u tiroedd bridio a bwydo rhag helwyr anghyfreithlon a bygythiadau newydd fel ffliw adar.

Mae wedi cymryd blynyddoedd o waith caled i ddod â’r adar gwych hyn yn ôl i’n hynysoedd gwyllt, ac mae eu llwyddiant wedi bod yn anhygoel. Ond mae angen gwneud mwy o waith i gadw’r adar beiddgar hyn yn ddiogel yn yr awyr.

Eryrod cynffonwyn mewn rhifau

~150

parau bridio yn y DU

~550g

mewntryd bwyd dyddiol wrth fagu plant ifanc

2.5m

uchafswm hyd adenydd aderyn sy’n oedolyn

Sut byddwch chi’n Mynd yn Wyllt Unwaith yr Wythnos?

Mae ein bywyd gwyllt yn anhygoel - ond mae mewn perygl. Mae WWF, yr RSPB a’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol yn gweithio gyda’i gilydd i ddod â byd natur yn ôl o ymyl y dibyn. Mae angen pawb arnom. Dysgwch sut gallwch chi fynd yn wyllt unwaith yr wythnos, a gyda’n gilydd gallwn ni achub ein hynysoedd gwyllt.