Glaswelltir

Mae glaswelltir gwyllt yn gyfoethog o ran bioamrywiaeth ac yn gynefin hynod werthfawr.

Mae pob planhigyn, pryf, aderyn a mamal maen nhw’n eu cefnogi yn chwarae rhan bwysig yn ein hecosystem. Ond mae’r glaswelltir yma yn diflannu, ac mae angen i ni eu gwarchod cyn iddynt ddiflannu am byth.

Golden eagle (Aquila chrysaetos) in flight near Portree, Isle of Skye, Scotland, UK
© James Roddie

Hafanau bywyd gwyllt

Mae digon o laswellt yn y DU: mewn gerddi, ar ymylon ffyrdd, ac mewn caeau chwarae a pharciau dinesig. Ond nid dyma’r glaswelltir cyfoethog ei rywogaethau rydyn ni’n cyfeirio atyn nhw.

Mae cynefinoedd glaswelltir go iawn - o ddolydd blodau gwyllt i dwyndir sialc - yn hafanau i fywyd gwyllt. Mae pryfed a gloÿnnod byw prin yn dibynnu ar y planhigion blodeuol toreithiog, tra’n uwch i fyny’r gadwyn fwyd mae tylluanod gwyn yn chwilio drwy’r brwyn tal am fwyd, ac mae hyd yn oed eryrod aur i’w gweld uwchben gwastadeddau agored.

Mae Machair yn brinnach fyth, sef math arbennig o laswelltir arfordirol a ffurfiwyd gan ffermio crofft traddodiadol ar briddoedd tywod cregyn. Mae’r cynefin hwn, a geir ei ganfod yn y DU ac Iwerddon, yn rhoi bywyd i gasgliad o flodau a bywyd gwyllt o’r radd flaenaf ac mae’n un o’r safleoedd bridio gorau i adar hirgoes yn unrhyw le yn ein ynysoedd gwyllt.

Freshly emerged four spotted chaser dragonfly perches on a ox eye daisy in a wet meadow in Norfolk, UK.
© Joseph Gray / WWF-UK

Amrywiaeth yn diflannu

Roedd glaswelltir cyfoethog ei rywogaethau yn arfer bod yn gyffredin yn y DU. Heddiw, mae’n ddarlun gwahanol iawn. Efallai fod caeau cefn gwlad yn edrych yn wyrdd ac yn fywiog, ond mae llawer wedi colli’r natur amrywiol a oedd ganddynt ar un adeg. Mae cynyddu datblygiad a llygredd, yn ogystal â dulliau ffermio dwys a pholisïau’r llywodraeth sy’n eu llunio, i gyd wedi chwarae rhan yn eu dirywiad. 

Mae’r niferoedd yn agoriad llygad: ers y 1930au, rydyn ni wedi colli 97% o’n dolydd blodau gwyllt, ac mae 50% o’n rhywogaethau gloÿnnod byw a 40% o bryfed peillio’r DU bellach mewn perygl o ddiflannu’n llwyr. Mae’r golled ddinistriol hon yn effeithio arnom ni hefyd – mae’r bwyd rydyn ni’n ei fwyta ac ein gallu i fynd i’r afael â newid yn yr hinsawdd ddwy enghraifft o’r hyn sydd yn y fantol.

Ond dydy hi ddim yn rhy hwyr. Drwy warchod ac adfer ein glaswelltir gwerthfawr, a chefnogi ffermwyr i wneud yr un peth, gallwn helpu i fynd i’r afael â newid yn yr hinsawdd a chreu dyfodol gwell i’r llu o rywogaethau sy’n dibynnu ar ein glaswelltir i oroesi - yn cynnwys ni.

Glaswelltir mewn niferoedd

Mae 45

o wahanol rywogaethau mewn 1m² o ddôl blodau gwyllt

1%

o laswelltir cyfoethog ei rywogaethau yn y DU

100%

Machair byd-eang 100% wedi'i ganfod yn yr Alban ac Iwerddon

Sut byddwch chi’n Mynd yn Wyllt Unwaith yr Wythnos?

Mae ein bywyd gwyllt yn anhygoel - ond mae mewn perygl. Mae WWF, yr RSPB a’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol yn gweithio gyda’i gilydd i ddod â byd natur yn ôl o ymyl y dibyn. Mae angen pawb arnom. Dysgwch sut gallwch chi fynd yn wyllt unwaith yr wythnos, a gyda’n gilydd gallwn ni achub ein ynysoedd gwyllt.