Ble fydden ni heb wenyn?
Maen nhw’n hanfodol i ddiogelu ein cyflenwad bwyd ac yn rhan o asgwrn cefn ein hynysoedd gwyllt, gan alluogi’r DU i gefnogi amrywiaeth eang o blanhigion a bywyd gwyllt. Ond, gyda niferoedd gwenyn yn dirywio’n fyd-eang, dylai eu diogelu nhw fod yn uchel ar agenda pawb.
Rydyn ni wedi arfer meddwl am wenyn mêl a chacwn, ond oeddech chi’n gwybod bod 270 o rywogaethau gwenyn yn y DU? Mae pob un yn chwarae rôl arbennig o ran cadw ein dolydd, ein coetiroedd, ein rhostiroedd a’n gwrychoedd yn fyw. Mae gwenyn yn hedfan pellteroedd anhygoel i gael paill a neithdar, gan beillio coed a blodau ar eu taith.
Mae’n anodd pwysleisio pa mor bwysig yw’r pryfed hyn i ni. Maen nhw’n rhan o’r ffordd rydyn ni’n cefnogi bioamrywiaeth gyfoethog o blanhigion a bywyd gwyllt ac maen nhw’n hanfodol i’n bwyd a’n heconomi – yn fyd-eang, mae tua thraean o’n cnydau’n dibynnu ar wenyn a phryfed peillio eraill.
Ond, mewn un oes, rydyn ni wedi gweld ein byd naturiol yn cael ei ddinistrio’n eang, gan fygwth dyfodol ein gwenyn. Ers y 1930au, rydyn ni wedi colli 97% o’n dolydd blodau gwyllt yn y DU; dydyn ni ddim yn gofalu am fyd natur, a nawr mae mewn argyfwng.
Pe byddem yn colli’r gweithwyr bach hanfodol hyn, byddai diogelwch ein cyflenwad bwyd dan fygythiad yn ogystal ag amrywiaeth gyffredinol byd natur yn ein hynysoedd gwyllt. Ond mae colli llawer o gynefinoedd, defnyddio plaladdwyr wrth gynhyrchu bwyd a ffermio dwys, ynghyd â hinsawdd sy’n newid yn gyflym, i gyd yn achosi dirywiad mewn rhywogaethau gwenyn gwyllt.
Er mwyn gwarchod y pryfed hyn a phryfed eraill, mae angen i ni adfer mannau gwyllt a phlannu mwy o flodau gwyllt. Mae angen i ni gefnogi ein ffermwyr i gynhyrchu bwyd mewn ffordd sy’n ystyriol o fyd natur a lleihau’r defnydd o blaladdwyr niweidiol. Ac mae angen i ni barhau i frwydro dros hinsawdd sefydlog.
Mae gwenyn yn hanfodol i fyd natur a’n goroesiad ein hunain. Os ydyn ni’n mynd i ddod â’n byd yn ôl yn fyw, mae gwenyn yn lle da i ddechrau.
270
o rywogaethau gwahanol o wenyn yn y DU
24
rhywogaeth o gacwn yn ein hynysoedd gwyllt
1/3
o gnydau byd-eang yn dibynnu ar bryfed peillio
Dewch i wybod mwy am ble mae gwenyn yn byw, y bygythiadau maen nhw’n eu hwynebu, a darllen straeon o obaith sy’n dangos ein bod yn gallu diogelu byd natur os ydyn ni’n gweithredu.
Mae ein bywyd gwyllt yn anhygoel - ond mae mewn perygl. Mae WWF, yr RSPB a’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol yn gweithio gyda’i gilydd i ddod â byd natur yn ôl o ymyl y dibyn. Mae angen pawb arnom. Dysgwch sut gallwch chi fynd yn wyllt unwaith yr wythnos, a gyda’n gilydd gallwn ni achub ein hynysoedd gwyllt.