Adar ysglyfaethus yn dychwelyd
Ychydig ddegawdau’n ôl, bu bron i ni golli holl eryrod aur y DU, a hyd yn oed nawr, dim ond mewn ambell le anghysbell y mae modd dod o hyd iddyn nhw. Gyda’n help ni, fe allen nhw fod yn hedfan ledled ein hynysoedd gwyllt unwaith eto.
Roedd yr adar mawr a swil hyn yn arfer byw ledled y DU, ond fel ysglyfaethwyr mawr, roedd eryrod aur yn cael eu targedu gan ffermwyr defaid ac ystadau saethu, ac roedd casglwyr wyau a chroen yn gwneud pethau’n waeth fyth. Erbyn 1850, roedden nhw wedi diflannu o Gymru a Lloegr, a dim ond ychydig iawn ohonyn nhw oedd ar ôl yng nglynnoedd Ucheldir yr Alban.
Roedd y defnydd o blaladdwr o’r enw organoclorin yn ystod y 1950au a’r 1960au wedi achosi rhagor o niwed iddyn nhw. Wrth i bobl ddod yn ymwybodol o’r perygl, fe wnaethon nhw weithredu drwy roi’r gorau i ddefnyddio’r plaleiddiad hwn yn wirfoddol, cyn iddo gael ei wahardd yn llwyr yn 1982. Oherwydd hyn, a gwarchodaeth gyfreithiol newydd, dechreuodd poblogaeth fach o eryrod aur yn y DU gynyddu.
Heddiw, mae mwy na 500 pâr o eryrod aur yn y DU, a dydyn nhw ddim yn dirywio’n ddifrifol bellach. Ar ôl eu hailgyflwyno, maen nhw bellach yn bridio yn yr Alban ac yng Ngweriniaeth Iwerddon, ac mae rhai wedi cael eu gweld yng Ngogledd Iwerddon hefyd.
Ond er bod eryrod aur wedi cael eu symud i Restr Werdd y DU o ran Pryder ynglŷn â’u Cadwraeth, maen nhw’n dal i fod dan fygythiad. Mae 68 ohonyn nhw wedi cael eu lladd yn anghyfreithlon yn yr Alban ers 1981, gyda’r rhan fwyaf o’r rheiny wedi cael eu gwenwyno ar rostiroedd grugieir. Gan fod y troseddau hyn yn digwydd mewn mannau anghysbell gydag ychydig o bobl yno i’w gweld, mae’n debygol bod y niferoedd go iawn yn llawer uwch.
Gyda chymorth, mae eryrod aur yn dychwelyd yn araf yn yr Alban. Ac mae llawer mwy o fannau tawel yn ein hynysoedd gwyllt a allai gynnig cartref i’r adar hyn. Mae angen i ni wneud yn siŵr bod ganddyn nhw ddigon o fwyd a mannau i nythu wrth i’w niferoedd barhau i gynyddu, a’u bod yn cael eu diogelu rhag y rheini a allai fod yn dymuno gwneud niwed iddyn nhw.
500+
o barau magu yn y DU
250g
y bwyd cyfartalog sydd ei angen arnyn nhw bob dydd
68
nifer yr adar wedi’u lladd yn anghyfreithlon ers 1981
Dysgwch fwy am ble mae eryrod aur yn byw, y bygythiadau maen nhw’n eu hwynebu a sut gallwn ni helpu i ddatrys y rhain.
Mae ein bywyd gwyllt yn anhygoel - ond mae mewn perygl. Mae WWF, yr RSPB a’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol yn gweithio gyda’i gilydd i ddod â byd natur yn ôl o ymyl y dibyn. Mae angen pawb arnom. Dysgwch sut gallwch chi fynd yn wyllt unwaith yr wythnos, a gyda’n gilydd gallwn ni achub ein hynysoedd gwyllt.