Cefnforoedd

Mae angen amddiffyn yr ecosystem hanfodol yn y cefnforoedd o’n cwmpas ar frys

Rydyn ni wedi’n hamgylchynu gan dros 30,000 km o arfordir a rhai o’r dyfroedd mwyaf helaeth ar y blaned. Ond mae sut rydyn ni’n defnyddio ein moroedd yn gwthio’r ecosystem hanfodol hon i’r eithaf ac er bod traean o’r dyfroedd hyn yn cael eu gwarchod yn swyddogol, mae llai nag 1% yn ddiogel.

Anemones, Sagartia cnidaria, living amongst a kelp forest, North Rona, 45 miles off the northern tip of Lewis in the Outer Hebrides, Scotland
© ScotlandBigPicture.com/ WWF-UK

Noddfa dŵr heli

Mae’n anodd dychmygu llawer o fywyd o dan wyneb ein moroedd tywyll, ond diolch i Lif y Gwlff yn cymysgu dŵr cynnes o Florida gyda cheryntau oer o’r gogledd, maen nhw’n cefnogi amrywiaeth wirioneddol drawiadol o fywyd.

Mae llawr y môr yn gartref i amrywiaeth o ryfeddodau gan gynnwys sêr brau, sbyngau, cwrelau, crancod meddal a mwy, ac mae dolydd morwellt a fforestydd ludwymon yn feithrinfa ac yn hafan am oes. Mae heulgwn a morloi llwyd yn nofio uwchben y tonnau, ac mae ein ynysoedd gwyllt yn denu tua 8 miliwn o adar y môr, gan gynnwys adar drycin Manaw, huganod a'r pâl.

Mae gennym gyfrifoldeb enfawr i warchod y rhywogaethau hyn a’r cynefinoedd anhygoel y maent yn dibynnu arnynt. Ond yn bryderus, er bod traean o’n moroedd yn cael eu gwarchod yn swyddogol, mae llai nag 1% yn ddiogel rhag arferion niweidiol fel pysgota anghynaliadwy.

A split level digital composite showing a Basking shark (Ceterhinus maximus) feeding on plankton around St Michael's Mount, Cornwall, UK
© naturepl.com / Alex Mustard / WWF

Dyfroedd aflonydd

Mae’r newid yn yr hinsawdd yn fygythiad mawr arall. Mae moroedd cynhesach yn effeithio ar y mathau o blancton sy’n byw yn nyfroedd y DU, sy’n cael effaith negyddol yr holl ffordd i fyny’r gadwyn fwyd. Mae’r prinder bwyd sy’n deillio o hyn, ynghyd â ffactorau eraill, yn golygu bod ein poblogaeth o wylanod coesddu wedi haneru ers y 1980au a gallai’r pâl ostwng 90% yn y 25 mlynedd nesaf oni bai ein bod yn cymryd camau brys.

Rydyn ni’n dibynnu cymaint ar ein moroedd, ond rydyn ni’n gwthio’r ecosystem hollbwysig hon i’r eithaf. Mae ein dyfroedd wedi’u llygru a’u gorbysgota ers degawdau, ac mae carthu yn dinistrio rhannau helaeth o wely’r môr. Ac er bod ein hamgylcheddau morol yn cynnig cyflenwadau ynni hanfodol i ni, mae datblygiadau newydd ar y môr yn cael eu cynllunio heb fawr o ystyriaeth i fyd natur.

Wrth i’r galw ar ein moroedd barhau i gynyddu, gall pob un ohonom chwarae rhan yn y gwaith o sicrhau ein bod yn eu defnyddio’n gynaliadwy ac mewn cytgord â byd natur. Os gallwn wneud hyn, byddant yn llawn bywyd gwyllt, ac yn darparu bwyd wedi’i ddal yn gynaliadwy ac ynni adnewyddadwy, a fydd yn ein helpu i fynd i’r afael â newid yn yr hinsawdd, ac yn ffynhonnell iechyd a lles ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol.

Cefnforoedd mewn niferoedd

MAe 40%

o boblogaeth y morloi llwyd yn y DU

35x

Cyflymder 35x o ddal carbon morwellt o gymharu â choedwig law

100

hectar o forfa heli yn cael ei golli bob blwyddyn

Sut byddwch chi’n Mynd yn Wyllt Unwaith yr Wythnos?

Mae ein bywyd gwyllt yn anhygoel – ond mae mewn argyfwng. Mae WWF, yr RSPB a’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol yn gweithio gyda’i gilydd i achub byd natur. Mae angen pawb arnom. Dysgwch sut gallwch chi fynd yn wyllt unwaith yr wythnos, a gyda’n gilydd gallwn ni achub ein hynysoedd gwyllt.