Pâl

Adar eiconig ar y dibyn

Gyda’u pigau lliwgar a’u plu du a gwyn, mae pâl yn ymwelwyr adnabyddus iawn i’n glannau. Ond mae eu safleoedd nythu a’u cyflenwad bwyd dan fygythiad, a gallai eu poblogaeth yn y DU ostwng hyd at 90% yn ystod y 30 mlynedd nesaf. Mae angen ein help ni ar y palod.

An adult Atlantic puffin (Fratercula arctica) comes in to land with two fish, Farne Islands, UK
© Andrew Parkinson / WWF-UK

Pysgotwyr â phigau lliwgar

Mae palod yn treulio’r rhan fwyaf o’u bywydau yn y môr, yn gorffwys ar y dŵr ac yn plymio i ddod o hyd i lymrïaid. Dydyn nhw ddim fel arfer yn plymio’n ddwfn iawn, ond maen nhw’n gallu mynd i lawr i 50 metr neu fwy, sef uchder Tŵr Pisa.

Pan fydd hi’n amser bridio, maen nhw’n mynd at dir sych, a phob gwanwyn mae tua 10% o boblogaeth pâl y byd yn cael ei geni yn y DU. Mewn nythfeydd mawr, mae pâl yn dod yn ôl at eu cymar oes ac yn dodwy un wy gwerthfawr, fel arfer mewn twll neu hollt greigiog. Am chwe wythnos, maen nhw’n gweithio gyda’i gilydd i gadw’r wy’n gynnes nes bod y cyw yn deor.

Pan mae cywion palod yn deor, maen nhw’n pwyso 40g yn unig. Chwe wythnos yn ddiweddarach, maen nhw’n pwyso tua 320g. Mae’n cymryd llawer o fwyd i dyfu’n gyflym fel hyn, ac mae angen digonedd o bysgod olewog sy’n llawn egni, fel corbenwaig a llymrïaid. Ond mae’r argyfwng hinsawdd sy’n cynhesu ein moroedd yn golygu bod y pysgod dŵr oer hyn yn dirywio, sy’n broblem sy’n cael ei gwneud yn waeth gan bysgodfeydd llymrïaid.

Puffin (Fratercula arctica) with fish in beak, Saltee Island, Ireland June 2009
© Wild Wonders of Europe / Pal Hermansen / WWF

Dyfroedd garw

Nid dim ond diffyg llysywod sy’n gwneud bywyd yn anoddach i’r pâl. Mae llygod mawr sy’n bwyta eu hwyau a’u cywion, stormydd ffyrnig amlach, gollyngiadau olew a bygythiad ffliw adar i gyd yn bethau sy’n gwneud pethau’n anoddach.

Ond, mae newyddion da. Ar ôl prosiect difa llygod mawr dan arweiniad yr RSPB, Natural England, y LandmarkTrust a’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol ar Ynys Lundy ym Môr Hafren, roedd niferoedd y pâl wedi cynyddu – o 13 i 375 mewn dim ond 15 mlynedd – ar ôl datgan bod yr ynys yn rhydd o lygod mawr. Gall cadwraeth uniongyrchol helpu. 

Ond mae bygythiadau hen a newydd yn parhau, ac os na roddir sylw i’r argyfwng hinsawdd ac os bydd bwyd yn parhau i fod yn brin, gallai niferoedd y pâl ostwng hyd at 90% erbyn 2050. Rhaid i ni weithio i wrthdroi’r argyfwng hinsawdd os ydyn ni am warchod ein moroedd a’r bywyd gwyllt anhygoel – gan gynnwys palod – sy’n byw ynddyn nhw.  

Pâl mewn rhifau

1M

adar yn y DU

10%

yn bridio o gwmpas y DU ac Iwerddon

20 years

disgwyliad oes cyfartalog

Sut byddwch chi’n Mynd yn Wyllt Unwaith yr Wythnos?

Mae ein bywyd gwyllt yn anhygoel - ond mae mewn perygl. Mae WWF, yr RSPB a’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol yn gweithio gyda’i gilydd i ddod â byd natur yn ôl o ymyl y dibyn. Mae angen pawb arnom. Dysgwch sut gallwch chi fynd yn wyllt unwaith yr wythnos, a gyda’n gilydd gallwn ni achub ein hynysoedd gwyllt.