Teithwyr pellter hir rhyfeddol
Cewri addfwyn yw heulgwn sy’n teithio i arfordiroedd gorllewinol ein hynysoedd gwyllt i fwydo a bridio yn ein moroedd sy’n llawn plancton. Mae’r ffordd rydyn ni’n gofalu am yr anifeiliaid sy’n ymweld â’n moroedd yn gallu effeithio ar fywyd gwyllt ledled y byd, ond mae’n bosib bod ein hymddygiad yn niweidio’r creaduriaid rhyfeddol hyn.
Dewch i gwrdd â’r pysgod mwyaf sy’n crwydro ein dyfroedd: yr heulgi. Dyma’r ail siarc mwyaf yn y byd. Gall y creaduriaid hyn, sy’n edrych fel eu bod nhw’n perthyn i gyfnod cynhanesyddol, fod mor hir â bws deulawr.
Mae heulgwn yn deithwyr pellter hir. Mae rhai yn teithio moroedd dwfn ar draws yr Iwerydd i ogledd Affrica cyn dychwelyd i ddyfroedd y DU yn yr haf. Bob blwyddyn, rydyn ni’n gweld dros 20,000 o heulgwn yn cyrraedd moroedd y DU, gan greu golygfa ddiddorol dros ben o fywyd gwyllt.
Mae’r dyfroedd o amgylch ein hynysoedd gwyllt yn llawn bywyd, ac maen nhw’n hanfodol i gynnal poblogaeth heulgwn yn fyd-eang. Er bod yr wybodaeth sydd gennym ni amdanyn nhw’n dal i fod yn gymharol gyfyngedig, rydyn ni’n gwybod bod y ffordd rydyn ni’n gofalu amdanyn nhw’n gallu effeithio ar fywyd gwyllt ledled y byd.
Mae heulgwn yn agored i bwysau gan arferion pysgota a newid yn yr hinsawdd, ac – oherwydd bylchau yn ein gwybodaeth – mae’n bosib ein bod ni’n niweidio’r creaduriaid rhyfeddol hyn cyn i ni hyd yn oed eu deall nhw’n iawn. Heddiw, maen nhw’n cael eu hystyried yn anifeiliaid sydd mewn perygl yn fyd-eang ac yn Ewrop gan Restr Goch yr IUCN.
Wrth i’n hinsawdd barhau i newid, gallai hyn newid patrwm cerrynt y môr a dosbarthiad plancton yn ein dyfroedd. Os bydd ein moroedd yn parhau i gynhesu a bod heulgwn yn methu cael gafael ar y bwyd sydd ei angen arnyn nhw yn ein moroedd, efallai y byddan nhw’n newid eu symudiadau.
Bob blwyddyn, rydyn ni’n dysgu mwy am yr hyn sy’n byw o amgylch ein harfordiroedd. Mae ein tir, ein dŵr a’n mannau awyr yn croesawu miliynau o anifeiliaid sy’n mudo. Felly, ein lle ni yw gwneud yn siŵr ein bod yn cynnal amgylchedd gwyllt ac iach i gynnal y bywyd gwyllt sy’n ymweld â’n hynysoedd gwyllt, gan gynnwys heulgwn.
20,000
nifer yr heulgwn sy’n ymweld â dyfroedd y DU
80%
dirywiad yn y ganrif ddiwethaf
4.5tn
pwysau heulgwn sy’n oedolion (ar gyfartaledd)
Dewch i wybod mwy am ble mae heulgwn yn byw, y bygythiadau maen nhw’n eu hwynebu, a darllen straeon o obaith sy’n dangos ein bod yn gallu diogelu byd natur os ydyn ni’n gweithredu.
Mae ein bywyd gwyllt yn anhygoel - ond mae mewn perygl. Mae WWF, yr RSPB a’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol yn gweithio gyda’i gilydd i ddod â byd natur yn ôl o ymyl y dibyn. Mae angen pawb arnom. Dysgwch sut gallwch chi fynd yn wyllt unwaith yr wythnos, a gyda’n gilydd gallwn ni achub ein hynysoedd gwyllt.