Ysglyfaethwyr cryf y môr sy’n agored i niwed
Yn Saesneg, mae orcas hefyd yn cael eu galw’n ‘killerwhales’, ac felly mae’n hawdd meddwl amdanyn nhw fel dihirod y môr. Ond, mae’r mamaliaid môr hyn yn glyfar, yn gymdeithasol ac yn hyblyg – ac yn eithriadol o agored i niwed o ganlyniad i’r hyn rydyn ni’n ei wneud i’n hecosystemau morol.
Mae’n hawdd adnabod orcas oherwydd eu lliwiau du a gwyn, a nhw yw aelodau mwyaf teulu’r dolffiniaid. Mae’r enw ‘killerwhale’ yn dod o’u gallu i weithio gyda’i gilydd i hela morfilod. Maen nhw’n helwyr deallus ac effeithiol iawn. Maen nhw’n gweithio mewn grwpiau neu bodiau ac yn defnyddio gwahanol dechnegau hela, yn dibynnu ar yr amgylchedd.
Orcas yw un o’r ymwelwyr mwyaf cyffrous i’n hynysoedd gwyllt. Mae’r dyfroedd o amgylch Shetland yn yr Alban yn fannau poblogaidd ar gyfer orcas, gyda rhai heidiau’n teithio o Wlad yr Iâ i gyrraedd yno. Ond mae yna beryglon sy’n gwneud eu teithiau nhw’n beryglus. Mae’r rhain yn cynnwys gwrthdrawiadau â llongau, mynd yn sownd mewn offer pysgota, a phobl yn creu sŵn sy’n tarfu ar eu cyfathrebu.
Ar arfordir gorllewinol yr Alban, mae un haid o orcas yn byw yn nyfroedd y DU drwy gydol y flwyddyn. Yn anffodus, maen nhw’n enghraifft fyw o niwed parhaol gweithgarwch dynol. Mae llygryddion penodol sy’n niweidio orcas wedi cael eu gwahardd ers y 1980au, ac eto ddegawdau yn ddiweddarach, mae’r diffyg llwyddiant bridio ymysg yr unigolion hyn yn dystiolaeth o’r difrod a achosir gan yr hen lygredd cemegol hwn.
Mae’r ffordd rydyn ni’n dylanwadu ar ein hamgylchedd morol yn gallu cael effaith ganlyniadol am ddegawdau. Am y rheswm hwn, mae’n debyg ein bod ni’n gweld blynyddoedd olaf yr unig deulu preswyl o orcas yn y DU. Mae cymaint nad ydyn ni’n ei wybod o hyd am y moroedd sydd o’n cwmpas. Dydyn ni ddim yn siŵr sut bydd newid yn yr hinsawdd yn effeithio ar boblogaethau o rywogaethau mae’r orcas yn bwydo arnyn nhw. Dydyn ni ddim yn gwybod chwaith beth yw effeithiau tymor hir moroedd prysur sy’n cael eu defnyddio ar gyfer pysgota dwys.
Oherwydd bod orcas yn teithio mor bell dros wahanol gynefinoedd, mae’n anodd asesu eu poblogaethau. Ond yr hyn rydyn ni yn ei wybod yw bod angen i’n harweinwyr atal y niwed i fyd natur nawr. Rhaid gweithredu ar lygredd, arferion pysgota a’r argyfwng hinsawdd. Gyda gwaith, gallwn ddiogelu dyfodol byd natur ar/o gwmpas ein hynysoedd gwyllt, er mwyn i ni allu ei fwynhau am genedlaethau i ddod.
50,000
yn y gwyllt
40–56
o ddannedd yn eu cegau
35mph
cyflymder nofio
Dysgwch fwy am gynefinoedd orcas, y bygythiadau maen nhw’n eu hwynebu a sut gallwn ni helpu i ddatrys y rhain
Mae byd natur – yn cynnwys orcas – yn cael ei wthio i’r dibyn gan hinsawdd sy’n newid, llygredd, camreoli, a mwy. Dim ond drwy wybod am y bygythiadau y gallwn ni weithio i ddiogelu ein hynysoedd gwyllt.
Mae ein bywyd gwyllt yn anhygoel - ond mae mewn perygl. Mae WWF, yr RSPB a’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol yn gweithio gyda’i gilydd i ddod â byd natur yn ôl o ymyl y dibyn. Mae angen pawb arnom. Dysgwch sut gallwch chi fynd yn wyllt unwaith yr wythnos, a gyda’n gilydd gallwn ni achub ein hynysoedd gwyllt.