© naturepl.com / Paul Hobson / WWF

Drudwennod

Enwog am eu campau acrobatig yn yr awyr

Mae drudwennod yn ymwelwyr cyffredin yn ein gerddi yma yn y DU, ond nhw yw un o’r adar sy’n diflannu gyflymaf. Gostyngodd eu niferoedd 53% rhwng 1995 a 2018, a heb ein cymorth ni, bydd pethau’n dal i waethygu.

European starling (Sturnus vulgaris) flying from nest, UK
© naturepl.com / Stephen Dalton / WWF

Dawnswyr medrus

Efallai eich bod yn adnabod sŵn bywiog drudwennod, ond oeddech chi’n gwybod eu bod nhw hefyd yn wych am ddynwared? Maen nhw’n gallu creu amrywiaeth eang o synau, gan gynnwys sŵn ci a broga, yn ogystal â synau pobl, larymau ceir a sŵn ffonau symudol. Y tro nesaf y byddwch yn clywed un yn canu, gwrandewch am unrhyw synau anarferol.

Mae drudwennod yn fwy adnabyddus am eu sgil arall, sef ‘dawnsio’ yn yr awyr – mae’r rhain yn cael eu galw’n heidiau. Maen nhw’n casglu yn eu miloedd, neu gannoedd o filoedd hyd yn oed, ac yn symud gyda’i gilydd i geisio cadw’n ddiogel rhag adar ysglyfaethus. Mae’n un o’r golygfeydd bywyd gwyllt mwyaf trawiadol.

Gallai eu gweld nhw yn eich gerddi ac mewn grwpiau mawr eich arwain i feddwl bod drudwennod yn ffynnu. Ond y gwir ydy eu bod nhw’n un o’r adar y mae eu niferoedd yn gostwng gyflymaf yn y DU, ac maen nhw ar Restr Goch y DU o ran pryder ynglŷn â’u cadwraeth ers 2002.

European starling (Sturnus vulgaris) singing from a perch. Cheshire, UK
© naturepl.com / Alan Williams / WWF

Newid y tirlun

Er eu bod nhw’n dal i fagu llawer o gywion, mae’n ymddangos bod mwy a mwy o’r adar ifanc hyn yn marw yn ystod blwyddyn gyntaf eu bywyd. Gallai hyn fod oherwydd cynnydd mewn llygredd a hafau cynyddol boeth yn gwneud bwyd yn brinnach. Mae tai modern yn cynnig llai o lefydd nythu i ddrudwennod, a gallai’r ffordd y mae ein glaswelltiroedd a’n hamgylcheddau amaethyddol yn cael eu rheoli, gan gynnwys defnyddio plaladdwyr, fod yn chwarae rhan hefyd.

Ond, diolch byth, mae llawer o ffyrdd y gallwn ni helpu. Gallwn ni roi hwb i ffynonellau bwyd naturiol ar gyfer drudwy ac adar eraill yr ardd drwy greu pyllau, plannu dolydd blodau gwyllt, gadael i ardaloedd o laswellt dyfu’n hir, neu greu pentwr o goed. Gallwn ni sicrhau bod bwyd a dŵr ar gael a gosod blychau nythu addas. Gallwn ni hefyd wobrwyo ffermwyr sy’n ffermio mewn ffyrdd sy’n ystyriol o fywyd gwyllt ac sy’n defnyddio cynlluniau fel Fair to Nature.

Drwy wneud newidiadau i sut rydyn ni’n annog bywyd gwyllt ar ein tir, yn ein gerddi ac ar ein ffermydd, gallwn ni helpu drudwennod i wella a ffynnu unwaith eto yn ein hynysoedd gwyllt.  

Drudwennod mewn rhifau

4-6

nifer yr wyau y mae parau bridio yn eu dodwy bob blwyddyn

21 yrs

yr aderyn gwyllt hynaf

15%

yr adar ifanc sy’n byw am dros flwyddyn

Sut byddwch chi’n Mynd yn Wyllt Unwaith yr Wythnos?

Mae ein bywyd gwyllt yn anhygoel - ond mae mewn perygl. Mae WWF, yr RSPB a’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol yn gweithio gyda’i gilydd i ddod â byd natur yn ôl o ymyl y dibyn. Mae angen pawb arnom. Dysgwch sut gallwch chi fynd yn wyllt unwaith yr wythnos, a gyda’n gilydd gallwn ni achub ein hynysoedd gwyllt.