© Sam Hobson / WWF-UK

Darnio cynefinoedd

Mae llai o gynefinoedd yn ddinistriol i fywyd gwyllt

Enghraifft wych o ddarnio cynefinoedd yw ein coetiroedd, sydd mewn argyfwng. Maen nhw wedi mynd yn fach ac yn wasgaredig wrth iddyn nhw gael eu clirio ar gyfer datblygiadau a thir fferm, ac erbyn hyn, dim ond 7% o’n coetiroedd brodorol sydd mewn cyflwr da i fyd natur. Mae darnio cynefinoedd yn achosi niwed i fywyd gwyllt, ac mae angen i ni wneud rhywbeth yn ei gylch.

Roads fragment wildlife habitat and motor vehicles are a major cause of air pollution and wildlife fatalities and casualties.
© Sam Hobson / WWF-UK

Y coedwigoedd heddiw

Rydyn ni wedi arfer gweld pocedi o goetir yn cael eu torri gan gaeau, ffyrdd a thir datblygedig ond ydych chi erioed wedi meddwl sut gallai hyn effeithio ar y bywyd gwyllt sy’n byw yn y cynefinoedd hyn sy’n lleihau?

Ystyriwch ditw’r helyg. Bob gwanwyn, mae’n gwneud nyth drwy greu twll mewn coeden sydd wedi pydru. Ond mae ei safleoedd nythu delfrydol yn brin, a dyma ein haderyn preswyl sy’n diflannu gyflymaf erbyn hyn. Un o’r problemau mwyaf yw colli’r coetiroedd gwlyb prysgog mae’n eu caru. Mae clytiau o’r cynefinoedd hyn yn parhau, ar hyd afonydd neu wrth ymyl hen safleoedd diwydiannol, ond dydyn nhw ddim yn barhaus.

Gan na fydd titw’r helyg yn hedfan yn bell dros dir agored, mae’r boblogaeth wedi cael ei hynysu, ac maen nhw’n cael trafferth dod o hyd i ddigon o fwyd a llefydd i nythu. Pan fyddan nhw’n diflannu o ardal, maen nhw’n aml yn ei chael yn anodd iawn dychwelyd.

Heddiw, dim ond 7% o goetiroedd brodorol sydd mewn cyflwr da ar gyfer natur, a dim ond 2.5% o’n hynysoedd gwyllt sy’n cael eu gorchuddio gan goetir hynafol gwerthfawr.

Caledonian pine wood, Abernethy Forest, Cairngorms National Park, Scotland, UK
© Mark Hamblin

Ar gyfer y coed

Mae problemau darnio tebyg yn effeithio ar fywyd gwyllt coetiroedd ledled y DU. Mae adar fel titw’r gors, y gnocell fraith leiaf a’r gylfinbraff i gyd yn ei chael hi’n anodd, a dim ond mewn nifer fach o ardaloedd yn Lloegr y mae pathew y cyll yn bodoli bellach, ac mae eu poblogaeth wedi mwy na haneru ers 2000.

Ond mae darnio cynefinoedd yn effeithio ar fwy nag adar a phathewod: mae hefyd yn niweidio’r coetiroedd eu hunain. Mae ein coetiroedd yn dioddef ac yn llai gwydn i newid erbyn hyn gan eu bod yn cael eu torri ar gyfer datblygu neu’n cael eu disodli gan blanhigfeydd anfrodorol. Heddiw, dim ond 7% o goetiroedd brodorol sydd mewn cyflwr da ar gyfer natur, a dim ond 2.5% o’n hynysoedd gwyllt sy’n cael eu gorchuddio gan goetir hynafol gwerthfawr.

Mae ein coetiroedd mewn argyfwng, ond os byddwn ni i gyd yn gweithio gyda’n gilydd, mae siawns o’u hadfer o hyd. Mae angen i ni blannu coetiroedd brodorol y dyfodol a diogelu, cysylltu ac adfer coetiroedd hynafol ein gorffennol. Os gallwn wneud hyn, bydd bywyd gwyllt cadarn fel titw’r helyg yn cael y cyfle sydd ei angen arno i ffynnu yn ein byd heriol.

Beth sy’n cael ei wneud?

Mae ateb i bob perygl, ac mae’r frwydr eisoes wedi dechrau i warchod ac adfer ein hynysoedd gwyllt. Cewch eich ysbrydoli gan y straeon hyn o obaith wrth i bob un ohonom chwarae ein rhan.