Teithwyr pellter hir epig y DU
Mae Adar Drycin Manaw yn deithwyr pellter hir sy’n gadael am hinsawdd cynhesach De America cyn dychwelyd i’r ynysoedd gwyllt bob gwanwyn i fridio. Ond mae dyfodol y fforwyr arwrol hyn mewn perygl, a gallwn chwarae rhan hollbwysig yn eu gwarchod.
Efallai eu bod braidd yn drwsgl ar dir, ond mae Adar Drycin Manaw yn feistri yn yr awyr. Gan hedfan yn isel dros y tonnau ar adenydd stiff, maen nhw fel albatrosiaid bach – mae’r ddau’n perthyn i’w gilydd mewn gwirionedd – gan deithio 6,000 o filltiroedd i arfordiroedd cynnes De America. Gan eu bod yn un o’n hadar sy’n byw hiraf yn y DU, gall rai deithio dros wyth miliwn cilometr yn ystod eu hoes – sy’n cyfateb i hedfan i’r Lleuad ac yn ôl tua 10 gwaith!
Rydyn ni’n ffodus o gael tua 80% o Adar Drycin Manaw y byd. Er eu bod yn treulio llawer o’u bywydau ar y môr, maent yn dychwelyd i fagu yma bob gwanwyn, gan ddychwelyd at eu cymar oes i ddodwy un wy. Maen nhw wedi dysgu gosod y rhain mewn tyllau o dan y ddaear i’w gwarchod rhag y rhan fwyaf o ysglyfaethwyr, ond nid yw hynny bob amser yn eu cadw’n ddiogel.
Mae eu hwyau’n agored i niwed gan ysglyfaethwyr goresgynnol fel llygod mawr, sydd weithiau’n cael eu cyflwyno’n ddamweiniol i ynysoedd gyda chanlyniadau dinistriol i adar sy’n nythu ar y ddaear. Unwaith y bydd y cyw wedi deor, mae’n beryglus i’r oedolion sy’n mynd a dod i’r gyda’u bwyd, felly maen nhw’n aros tan y tywyllwch i ddychwelyd.
Bu i sŵn dirgel yr adar hyn yn galw yn y tywyllwch achosi i forwyr Llychlynnaidd gredu bod ynys Rum yn yr Alban wedi ei meddiannu gan ellyllon. Heddiw, yr hyn sy’n frawychus yw dyfodol yr adar anhygoel hyn. Yn ogystal ag ysglyfaethwyr, maen nhw’n agored i glefydau fel ffliw adar, yn ogystal â bygythiadau i ffynonellau bwyd ar hyd eu taith mudo.
Yn anffodus, maen nhw ar Restr Oren Pryder Cadwraethol y DU, sy’n golygu eu bod nhw’n agored i risg cymedrol. Fel y cartref byd-eang mwyaf i nythod Adar Drycin Manaw, mae gennym rôl bwysig o ran sicrhau eu dyfodol. Rhaid inni eu gwarchod rhag ysglyfaethwyr ac afiechydon yn ogystal â diogelu eu ffynonellau bwyd a’u llwybrau mudo er mwyn iddynt allu parhau i rannu ein dyfroedd am flynyddoedd i ddod.
6,000
pellter mewn milltiroedd o’r DU i Dde America
80%
o’r boblogaeth fyd-eang yn y DU
55 blynedd
oedran yr aderyn hynaf hysbys
Discover more about where Manx shearwaters live, the threats they face, and some stories of hope that show we can preserve nature if we take action.
Mae ein bywyd gwyllt yn anhygoel - ond mae mewn perygl Mae WWF, yr RSPB a’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol yn gweithio gyda’i gilydd i ddod â byd natur yn ôl o ymyl dibyn. Mae angen pawb arnom. Dysgwch sut gallwch chi fynd yn wyllt unwaith yr wythnos, a gyda’n gilydd gallwn ni achub ein ynysoedd gwyllt.