Y peiriannydd ecosystemau coll yn dychwelyd
Mae afancod yn rhan o stori cadwraeth lwyddiannus, ar ôl dychwelyd i’r DU ar ôl diflannu’n gyfan gwbl. Ond mae bygythiadau newydd yn golygu eu bod nhw’n bell o fod yn ddiogel, felly mae’n rhaid i ni weithredu nawr i wneud yn siŵr bod y peirianwyr ecosystem hyn yma i aros.
Wrth i ni gysgu, mae cnofilod nosol â thraed gweog a chynffonau siâp rhwyf yn helpu i adfer ein cynefinoedd dŵr croyw. Maen nhw’n adeiladu systemau argae cymhleth, sy’n helpu i greu gwlyptiroedd sy’n ffynnu ac sy’n gartref i amrywiaeth eang o fywyd gwyllt. Afancod yw’r penseiri blewog hyn, ac mae angen eu help arnom.
Mae ein system afonydd wedi cael ei wthio i’r eithaf oherwydd pwysau o ganlyniad i fflachlifoedd, erydiad a llawer o lygredd. Ond drwy atal llif dŵr, mae’r afanc yn lleihau llifogydd, yn helpu i lanhau dŵr drwy drapio llygryddion ac yn lleihau effaith sychder drwy greu gwlyptiroedd.
Mae’r argae naturiol hwn mewn afonydd a nentydd yn gallu ail-siapio’r amgylchedd cyfan, gan alluogi afonydd i lifo’n naturiol, coed i dyfu’n dal, ac ucheldiroedd i ffynnu. Mae cael cynefinoedd cyfoethog ac iach yn galluogi natur i liniaru ac addasu i newid yn yr hinsawdd.
Er gwaethaf yr holl fanteision mae afancod yn eu cynnig, roedden nhw’n cael eu hela ac fe wnaethon nhw ddiflannu gannoedd o flynyddoedd yn ôl yn y DU. Rydyn ni hefyd wedi colli llawer o’n cynefin gwlyptir; mae dros draean ohono wedi cael ei ddinistrio’n fyd-eang ers 1970 ac mae’n diflannu dair gwaith yn gyflymach na’n coedwigoedd.
Ond mae yna obaith. Mae prosiectau cadwraeth i warchod ac adfer byd natur yn y DU, gyda chefnogaeth WWF, yr RSPB, yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol a sefydliadau eraill, yn golygu bod yr afanc yn dychwelyd i’n hafonydd a’n gwlyptiroedd. Erbyn hyn, gallwch eu gweld nhw ger afon Gwy yng Nghymru, afon Otter yn Nyfnaint, afon Stour yng Nghaint, afonydd Tay ac Earn yn yr Alban, ac mewn llawer o leoliadau eraill ar draws y DU.
Mae’r peirianwyr naturiol hyn wedi dychwelyd, ac rydyn ni’n dechrau adennill ecosystem gyfan a gafodd ei golli gyda nhw. Yn anffodus, mae problem o hyd gan fod yr afanc yn dal i gael ei ystyried yn anifail sydd mewn perygl. Nawr ein bod ni wedi’u cael nhw’n ôl, rhaid i ni beidio â’u colli nhw eto.
~1,000
afanc yn yr Alban
~150
afanc yn Lloegr
1/3
cynefinoedd gwlyptir byd-eang wedi’u colli ers 1970
Dewch i wybod mwy am ble mae’r afanc yn byw, y bygythiadau mae’n eu hwynebu, a darllen straeon o obaith sy’n dangos ein bod yn gallu diogelu byd natur os ydyn ni’n gweithredu.
Mae ein bywyd gwyllt yn anhygoel - ond mae mewn perygl. Mae WWF, yr RSPB a’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol yn gweithio gyda’i gilydd i ddod â byd natur yn ôl o ymyl y dibyn. Mae angen pawb arnom. Dysgwch sut gallwch chi fynd yn wyllt unwaith yr wythnos, a gyda’n gilydd gallwn ni achub ein hynysoedd gwyllt.