© James Shooter / scotlandbigpicture.com

Eog yr Iwerydd

Teithiau anhygoel y pysgod gwerthfawr hyn sy’n trawsnewid

Mae ein hynysoedd gwyllt yn gadarnle Ewropeaidd i eogiaid, ond yn 2022 dim ond chwarter ein hafonydd oedd â phoblogaethau cynaliadwy o eogiaid – y lefel isaf erioed. Os na fyddwn ni’n gweithredu nawr i warchod ein hafonydd, mae perygl y byddwn ni’n colli’r pysgod hyn o’n hynysoedd yn gyfan gwbl.

Atlantic salmon (Salmo salar), female, on its migration up river to spawn, in an Environment Agency fish trap (which is a salmon ladder with gates that the staff open once they have recorded the fish). River Caldew, Carlisle, Cumbria, UK
© Linda Pitkin / scotlandbigpicture.com

Teithwyr epig

Mae eogiaid yn byw bywydau arbennig. Am hyd at bedair blynedd, maen nhw’n aros mewn ffrydiau oer sy’n llifo’n gyflym ac sy’n darparu popeth sydd ei angen arnyn nhw. Yna, mae eu cyrff yn dechrau trawsnewid ac maen nhw’n cael ysfa fawr i nofio yn nyfroedd hallt yr Iwerydd. Maen nhw’n teithio i lawr yr afon i fwydo, tyfu a dilyn llwybrau anghyfarwydd.

Mae eogiaid, ‘brenin y pysgod’, yn tyfu o fod yn silod mân i tua metr o hyd, ac mae’r oedolion yn pwyso tua 32kg. Yna, maen nhw’n mudo am yr ail dro, ac yn nofio miloedd o filltiroedd i’r union fan lle gwnaethon nhw ddeor. Maen nhw’n newid eto i ddenu cymar, gan newid o fod yn lliw arian/glas i fod yn goch neu’n wyrdd. Mae genau isaf y gwrywod yn ymestyn ac maen nhw’n tyfu dannedd miniog.

An Atlantic salmon (Salmo salar) on breeding territory on the River Ness, Scotland, UK
© James Shooter / scotlandbigpicture.com

Teithiau peryglus

r ôl i’r eogiaid drawsnewid, maen nhw’n barod i ganolbwyntio ar deithio milltiroedd i fyny’r afon, yn neidio drwy raeadrau ac yn gadael i ddim byd eu rhwystro. Neu bron i ddim byd.

Mae gweithgarwch dynol yn bygwth y rhywogaeth hon, fel y rhwystrau sydd bellach yn atal llawer o eogiaid rhag cyrraedd eu mannau silio, a’r llygredd dŵr o amaethyddiaeth sy’n tagu’r afonydd y maen nhw’n nofio ynddyn nhw. Hyd yn oed os ydyn nhw’n goroesi ac yn dodwy eu hwyau, gallai newid yn yr hinsawdd wneud dŵr eu nentydd a’u his-afonydd heddychlon yn rhy gynnes i’r wyau hynny oroesi.

Mae eogiaid mewn perygl, ond mae llawer y gallwn ni ei wneud i helpu. Gallwn ni fabwysiadu arferion ffermio sy’n ystyriol o natur i atal llygredd, ac adeiladu argaeau a choredau gyda bywyd gwyllt mewn golwg, gan ganiatáu i eogiaid yn ogystal â llysywod, brithyll a bywyd gwyllt arall deithio’n ddiogel yn ein dyfrffyrdd. A gallwn uno yn erbyn yr argyfwng hinsawdd i sicrhau dyfodol i eogiaid ledled y DU.   

Eog yr Iwerydd mewn niferoedd

¼

afonydd y DU gyda phoblogaeth hyfyw o eogiaid yn 2022

3m+

uchder y gall eog ei neidio o’r dŵr!

13 years

oedran hynaf eog sydd wedi’i gofnodi

Sut byddwch chi’n Mynd yn Wyllt Unwaith yr Wythnos?

Mae ein bywyd gwyllt yn anhygoel - ond mae mewn perygl. Mae WWF, yr RSPB a’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol yn gweithio gyda’i gilydd i ddod â byd natur yn ôl o ymyl y dibyn. Mae angen pawb arnom. Dysgwch sut gallwch chi fynd yn wyllt unwaith yr wythnos, a gyda’n gilydd gallwn ni achub ein hynysoedd gwyllt.