Coed Derw Hynafol

Tystion i dirweddau sy’n newid

Mae ein coed derw hynafol – rhai ohonyn nhw’n gannoedd o flynyddoedd oed – yn gonglfeini ein cymunedau coetir. Maen nhw’n cefnogi nifer syfrdanol o fywydau ac maen nhw’n arf gwerthfawr yn ein brwydr yn erbyn newid yn yr hinsawdd. Am y rhesymau hyn a mwy, rhaid i ni warchod ac adfer ein coetir hynafol.

As the last remnants of evening light pass over its nest hole, a little owl (Athene noctua) fledgling appears, Derbyshire, UK
© Andrew Parkinson / WWF-UK

Gwarchodfeydd ysblennydd

Mae’r cewri hir-oes hyn yn ffynonellau bywyd hanfodol sy’n llawn hanes a symbolaeth. Dros filoedd o flynyddoedd, mae coed derw hynafol wedi esblygu ynghyd ag amrywiaeth o rywogaethau i greu cymunedau unigryw a chymhleth o ffwng, planhigion, pryfed a micro-organebau sy’n byw o fewn cynefin coed derw.

Maen nhw’n gallu cefnogi dros 2,300 o rywogaethau eraill gan gynnwys adar, ystlumod a phryfed – sy’n fwy nag unrhyw goeden frodorol arall. Yn yr un modd, mae coedwigoedd hynafol sy’n cynnwys coed derw yn gartref i fwy o’n rhywogaethau dan fygythiad nag unrhyw fath arall o goetir.

Maen nhw’n bwysig i’r hinsawdd hefyd. Mae coetiroedd sy’n cynnwys coed o wahanol rywogaethau ac oedrannau yn sbyngau carbon enfawr, ac mae ymchwil newydd yn awgrymu bod hen goed yn dal mwy o garbon oherwydd eu strwythur trwchus. Mae ein coed derw hynafol yn unigryw. Does dim modd ailgreu’r byd natur maen nhw’n ei gefnogi, y carbon maen nhw’n ei ddal na’r gwerth diwylliannol sydd ganddyn nhw. 

Red squirrel (Sciurus vulgaris) sitting on an old giant gnarled Oak tree. Highlands, Scotland, UK, January.
© naturepl.com / SCOTLAND: The Big Picture / WWF

Parchu ein hynafiaid

Mae’r coed derw hyn wedi helpu i siapio ein tirwedd, gan ddarparu lloches i anifeiliaid, marcio ffiniau caeau a chefnogi bywoliaeth pobl. Mae llawer o’r rheini sy’n weddill yn sefyll ar eu pen eu hunain mewn caeau a pharciau, yn hytrach na mewn coetiroedd. Maen nhw’n dangos yr hyn sy’n weddill o’r rhwydweithiau gwrychoedd ac yn gwasgaru coetiroedd hynafol a oedd yn arfer gorchuddio ein hynysoedd gwyllt.

Mae datblygiadau ac amaethyddiaeth ddwys dros y ganrif ddiwethaf wedi rhoi ein coetiroedd a’n gwrychoedd dan fygythiad. Ers 1950, rydyn ni wedi colli 190,000 km o’n gwrychoedd – tua hanner y pellter i’r lleuad – ac mae coetir hynafol bellach yn gorchuddio dim ond 2.5% o’r DU.

Ond mae pobl ledled y DU yn gweithredu. Mae pobl yn plannu coed yn eu cymunedau, yn ymgyrchu dros warchod coetiroedd ac yn adfer coedwigoedd brodorol ar raddfa fawr. Mae llygedyn o obaith. Os ydyn ni’n gallu diogelu coed derw hynafol, yna mae posibilrwydd y gallwn adfer rhwydwaith o goetiroedd cysylltiedig unwaith eto. 

Coed derw hynafol mewn rhifau

2,300+

o rywogaethau’n cael eu cefnogi gan goed derw hynafol

2.5%

o’r DU wedi’i gorchuddio gan goetir hynafol

1,000+

y blynyddoedd y gallant fyw

Sut byddwch chi’n Mynd yn Wyllt Unwaith yr Wythnos?

ae ein bywyd gwyllt yn anhygoel - ond mae mewn perygl. Mae WWF, yr RSPB a’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol yn gweithio gyda’i gilydd i ddod â byd natur yn ôl o ymyl y dibyn. Mae angen pawb arnom. Dysgwch sut gallwch chi fynd yn wyllt unwaith yr wythnos, a gyda’n gilydd gallwn ni achub ein hynysoedd gwyllt.