Gwneud byd natur yn rhan o’ch bywyd a’ch cymuned
Rhaid i bob un ohonom fod yn rhan o’r newid bob dydd: creu mannau mwy gwyllt, gwneud byd natur yn rhan o’n bywydau a’n cymunedau a siarad ar ei ran.
Os bydd digon ohonom yn dangos cariad at fyd natur na ellir ei anwybyddu, gallwn fynnu mwy o weithredu gan ein harweinwyr, a gyda’n gilydd gallwn Achub ein Hynysoedd Gwyllt. Gweithredwch yn eich cymuned heddiw!
Mae cydweithio â’n cymdogion yn golygu y gallwn adeiladu mwy o bŵer a sbarduno newid ar gyfer ein cymunedau a byd natur. Boed yn blannu blodau sy’n addas i fywyd gwyllt ar hyd eich ffordd, rheoli eich man gwyrdd lleol neu’n annog tirfeddianwyr ac awdurdodau lleol i wneud eu rhan, mae rhywbeth y gall pob cymuned ei wneud dros fyd natur.
Ydych chi’n byw mewn dinas, yng nghefn gwlad neu mewn maestref? Ydych chi’n dechrau arni neu’n brofiadol o ran gweithredu cymunedol? Mae gennym ni awgrymiadau, cyngor a straeon ysbrydoledig i chi ar dudalennau Natur ar Garreg Eich Drws yr RSPB. Diolch i’r holl elusennau a sefydliadau natur sydd wedi ysbrydoli a llywio’r adnoddau hyn.
Get support for your projects with a funding boost. Our partner Aviva is launching a new £1 million fund to support community nature projects by matching your own fundraising efforts. Don’t miss out - sign up for our newsletter and we’ll let you know when the fund is open.
Mae straeon yn rhan o’n bywydau, ac rydyn ni eisiau eich helpu chi i ddweud eich stori chi! Rydyn ni’n chwilio am 300 o bobl ifanc rhwng 13 a 25 oed o bob cwr o’r DU i gymryd rhan yn ein cyfle cyffrous i adrodd straeon.
Ydych chi’n berson ifanc sydd eisiau achub ein byd natur a’n bywyd gwyllt? Mae Youth 4 Nature y DU yn ysgogi ac yn grymuso pobl ifanc i geisio a galw am weithredu pendant er mwyn diogelu ac adfer bioamrywiaeth ac ecosystemau yn y DU. Drwy uno lleisiau pobl ifanc a rhoi llwyfan iddynt, a thrwy hyfforddi’r genhedlaeth nesaf o arweinwyr amgylcheddol, mae’r gymuned o bobl ifanc sy’n gweithredu yn tyfu’n gryfach bob dydd, gan sicrhau dyfodol sy’n llawnach o fyd natur yn y pen draw.
Mae’r sefydliadau ambarél hyn yng Nghymru, Lloegr, yr Alban a Gogledd Iwerddon i gyd yn cynnig cyfleoedd i wneud gwahaniaeth i fyd natur ar lefel leol.
Mae ein bywyd gwyllt yn anhygoel – ond mae mewn argyfwng. Mae WWF, yr RSPB a’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol yn gweithio gyda’i gilydd i achub byd natur. Mae angen pawb arnom. Dysgwch sut gallwch chi fynd yn wyllt unwaith yr wythnos, a gyda’n gilydd gallwn ni achub ein hynysoedd gwyllt.