Dewch â rhyfeddodau naturiol ein hynysoedd gwyllt yn fyw i’ch myfyrwyr.
Dysgwch sut gall eich ysgol chi helpu i ddiogelu ac adfer byd natur! Mae gennym ni adnoddau am ddim i ysgolion, digwyddiadau a dathliad cenedlaethol o fyd natur mewn ysgolion ym mis Mehefin.
Dysgwch sut gall eich ysgol chi chwarae ei rhan yn y gwaith o warchod ac adfer ein hynysoedd gwyllt drwy ymuno â gweithredu dros natur sydd dan arweiniad ysgolion, ac sy’n rhan o ddathliadau a gynhelir ym mis Mehefin ledled y DU.
Gwahoddir ysgolion cynradd i gymryd rhan yn Y Ddihangfa Wyllt, prosiect creadigol mawr ar gyfer amgueddfeydd ac ysgolion sydd wedi’i ysbrydoli gan y bywyd gwyllt a geir mewn casgliadau amgueddfeydd ac orielau. Dewch o hyd i ddigwyddiad yn eich ardal chi, neu archwiliwch adnoddau dosbarth am ddim, a helpu’r genhedlaeth nesaf i ymuno â’r sgwrs am fioamrywiaeth.
Mae ein bywyd gwyllt yn anhygoel - ond mae mewn perygl. Mae WWF, yr RSPB a’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol yn gweithio gyda’i gilydd i ddod â byd natur yn ôl o ymyl y dibyn. Mae arnom angen pawb. Dysgwch sut gallwch chi fynd yn wyllt unwaith yr wythnos, a gyda’n gilydd gallwn ni achub ein hynysoedd gwyllt.