28 Ebrill – 1 Mai
Mae natur y DU yn hardd ac yn werthfawr – ond mae mewn argyfwng. Dyna pam, rhwng 28 Ebrill a 1 Mai, rydyn ni’n dod â phobl at ei gilydd ar gyfer ein Penwythnos Gwyllt i hau, tyfu a chreu cynefinoedd sy’n ffynnu ar gyfer y byd natur ar garreg ein drws.
Boed yn ardd, yn falconi, neu’n fan cymunedol sydd heb gael sylw, gall unrhyw ardal awyr agored fod yn hafan bywyd gwyllt sy’n ffynnu.
“Y gwir ydy, mae pob un ohonom ni, pwy bynnag ydyn ni, neu ble rydyn ni’n byw, yn gallu ac yn gorfod chwarae rhan yn y gwaith o adfer byd natur.”
Sir David Attenborough
Mae’n hawdd iawn cymryd rhan yn ein Penwythnos Gwyllt. Cofrestrwch gan ddefnyddio’r ffurflen isod a byddwch yn cael yr holl gyngor a’r awgrymiadau sydd arnoch eu hangen ynghylch sut i wneud eich ardal chi’n fwy gwyllt – gan gynnwys canllaw rhad ac am ddim y gellir ei lwytho i lawr. Rhannwch luniau o’ch ardal wyllt drwy’r penwythnos gan ddefnyddio’r hashnod #FyArdalWyllt.
Mae natur yn hanfodol i’n bywydau i gyd. Mae’n darparu’r bwyd rydyn ni’n ei fwyta, yr aer rydyn ni’n ei anadlu, a chartref i’r bywyd gwyllt gwerthfawr sydd ar garreg ein drws. Yn syfrdanol, mae 1 rhywogaeth bywyd gwyllt o bob 7 yn y DU mewn perygl o ddiflannu’n llwyr. Drwy gymryd rhan yn y Penwythnos Gwyllt, byddwch yn helpu i’w hachub.
Mae’r Penwythnos Gwyllt yn rhan o ymgyrch Achub ein Hynysoedd Gwyllt. Mae’r RSPB, yr WWF, a’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol yn gofyn am ddiwedd ar y difrod i natur y DU ar unwaith, a gweithredu ar frys i’w hadfer. Gadewch i’r genhedlaeth nesaf etifeddu ynysoedd gwyllt sydd mewn cyflwr gwell.
Dysgwch fwy am y camau y gallwch chi eu cymryd gartref, yn eich cymdogaeth neu yn y gwaith i helpu natur i wella.