Helpwch i ddiogelu ac adfer ein hynysoedd gwyllt, ac ymuno â dathliad cenedlaethol o fyd natur mewn ysgolion ym mis Mehefin.
Ewch ati i weithredu dros fyd natur yn eich ysgol gydag offer ac adnoddau am ddim gan WWF a’r RSPB
Gall ysgolion a cholegau chwarae rhan allweddol yn y gwaith o achub ein hynysoedd gwyllt, drwy wneud tir yr ysgol yn hafanau i fywyd gwyllt, a thrwy ysbrydoli’r genhedlaeth nesaf o hyrwyddwyr natur.
Dim ots pa mor fawr neu fach yw eich tir, mae sawl ffordd y gallwch chi weithredu dros natur a helpu i ddiogelu ac adfer bioamrywiaeth y DU. Ac nid dim ond bywyd gwyllt sy’n elwa! Drwy wahodd natur i’ch ysgol, gallwch wella gwersi, gwella lles myfyrwyr a staff, a hyd yn oed arbed arian!
I gael cyngor, adnoddau ac ysbrydoliaeth ar ddod â byd natur i galon eich ysgol, cofrestrwch ar gyfer un o’n gweminarau DPP am ddim i athrawon.
Ym mis Mehefin, rydyn ni’n galw ar ysgolion a cholegau i agor eu giatiau i deuluoedd, pobl leol sy’n gwneud penderfyniadau a’r wasg, a hynny er mwyn cynnal digwyddiadau dathlu natur sy’n codi ymwybyddiaeth o ryfeddodau naturiol eu tirwedd leol, tynnu sylw at y bygythiadau sy’n wynebu bywyd gwyllt y DU, ac ysbrydoli gweithredu dros fyd natur yn y gymuned.
Yn dod yn fuan - ein Pecyn Dathlu Ysgolion ar gyfer Natur am ddim
Mae ein bywyd gwyllt yn anhygoel - ond mae mewn perygl. Mae WWF, yr RSPB a’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol yn gweithio gyda’i gilydd i ddod â byd natur yn ôl o ymyl y dibyn. Mae arnom angen pawb. Dysgwch sut gallwch chi fynd yn wyllt unwaith yr wythnos, a gyda’n gilydd gallwn ni achub ein hynysoedd gwyllt.