Lleisiau Ifanc dros Natur – Our Beautiful Wild!

Cafwyd misoedd o waith caled, gweithdai o gwmpas y DU, dwsinau o sesiynau ar-lein, dosbarthiadau meistr gan arbenigwyr y diwydiant a sgyrsiau a chyngor gan grŵp llywio ieuenctid ymroddedig. Ond bu’n werth chweil. Dyma ni’n cyflwyno ichi ffilm natur bwerus a wnaed gan bobl ifanc i bobl ifanc - "Our Beautiful Wild.”

Seven young people on a muddy hike

Hoffech chi gyflwyno sioe?

Os yw’r ffilm wedi’ch ysbrydoli chi ac rydych yn awyddus i gymryd rhan, hoffem eich helpu chi i drefnu’ch dangosiad eich hun o’r ffilm a rhannu ei neges â’ch ffrindiau, eich teulu neu’ch cymuned. Gallai hyn fod yn yr ysgol, gartref neu fel rhan o grŵp ieuenctid. Dim profiad – dim problem! Gallwn ni eich helpu chi drwyddi.

Cofrestrwch i dderbyn adnoddau a fydd yn eich helpu chi i wneud hynny, gan gynnwys popeth sydd ei angen i’ch rhoi ar ben ffordd.

Too Big To Fail film premiere.
© Richie Morgan / Runaway Films

Ydych chi wedi cynnal dangosiad yn barod?

Os ydych chi wedi trefnu dangosiad o’r ffilm ‘Our Beautiful Wild’ yn barod, rydyn ni eisiau gwybod! Diolch am gefnogi’r prosiect a rhannu’r neges.

Adrodd Straeon trwy Ffilm

Ydych chi wedi gwylio “Our Beautiful Wild“ ac wedi’ch ysbrydoli gan brosiect Lleisiau Ifanc dros Natur?

Beth am ychwanegu eich llais eich hun at y stori fawr? Mae ein adnoddau yn llawn tipiau ar adrodd straeon, gwneud ffilmiau a chreu newid.

Neu gallwch archwilio ystod eang o fideos sy’n llawn cyngor gan arbenigwyr o’r diwydiant. O olygu ffilm i ddarlunio, mae fideos sy’n trafod ystod eang o bynciau i’ch helpu i ehangu eich sgiliau.

A chofiwch #LleisiauIfancDrosNatur #YoungVoicesForNature a #AchubEinHynysoeddGwyllt #SaveOurWildisles.

WWF logo: an illustration of a panda with 'WWF' black text below