Gyda’n gilydd, gallwn Achub ein Hynysoedd Gwyllt


“Dyma ein cartref ni, felly ein cyfrifoldeb ni yw ei ddiogelu a’i adfer. Efallai mai chi fydd y genhedlaeth i gadw’r ynysoedd gwyllt hyn mewn cyflwr gwell na’r genhedlaeth flaenorol.”

Sir David Attenborough

Seinio’r larwm ar ran natur

Mae natur y DU yn anhygoel. Dyma ein system cynnal bywyd hefyd.

Ond mae ein bywyd gwyllt a’n mannau gwyllt gwerthfawr ar fin diflannu.

Mae’r DU yn un o’r gwledydd lle mae byd natur wedi dirywio fwyaf yn y byd.

Os ydych yn caru natur, gweithredwch nawr a dewch i wybod sut gallwch chi fod yn rhan o'r newid.

Mae gan bawb ran i’w chwarae

Mae Achub ein Hynysoedd Gwyllt yn alwad brys ar bob un ohonom i weithredu. 

Yn eu hymgyrch gyntaf fawr gyda’i gilydd, mae’r WWF, yr RSPB, a’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol yn gofyn am ddiwedd ar y difrod i natur y DU ar unwaith, a gweithredu ar frys i’w hadfer.   

Ac mae’n rhaid i bawb gymryd rhan i wrthdroi'r niwed a wnaethpwyd i natur dros y ddwy ganrif ddiwethaf.

Mae bywyd gwyllt y DU yn anhygoel - ond mae mewn perygl

90%

o byllau tir isel wedi cael eu colli yn ystod yr 20fed ganrif

0

Dim un afon yn Lloegr mewn cyflwr glân

60%

o rywogaethau dŵr croyw yn dirywio

Sut byddwch chi’n Mynd yn Wyllt Unwaith yr Wythnos?

Mae ein bywyd gwyllt yn anhygoel - ond mae mewn perygl. Mae WWF, yr RSPB a’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol yn gweithio gyda’i gilydd i ddod â byd natur yn ôl o ymyl y dibyn. Mae angen pawb arnom. Dysgwch sut gallwch chi fynd yn wyllt unwaith yr wythnos, a gyda’n gilydd gallwn ni achub ein ynysoedd gwyllt.