Mae’r cynefinoedd cyfoethog ac amrywiol hyn yn gartref i filoedd o rywogaethau.
Mae coetiroedd hefyd yn hanfodol ar gyfer storio carbon, ac maent hefyd yn helpu i leihau difrod llifogydd.
Ychydig iawn o lefydd sydd yn fwy heddychlon a bywiog na chalon coetir brodorol. Yn ein ynysoedd gwyllt, fe welwch sawl math o goedwigoedd clychau’r gog hardd a choedwigoedd tymherus prin, sy’n gartref i gennau nad ydynt iw cael yn unman arall ar y Ddaear, a choed pinwydd Caledonaidd, cadarnle ar gyfer grugieir y coed, gweilch a gwiwerod coch.
Mae ein cynefinoedd coetir yn casglu ac yn storio carbon ac maent yn un o’n hamddiffynfeydd hanfodol yn y frwydr yn erbyn yr argyfwng hinsawdd. Gallant hefyd helpu i amddiffyn rhag llifogydd, sefydlogi’r pridd, helpu i lygru planhigion, a hyd yn oed amsugno llygredd drwy lanhau’r aer rydyn ni’n ei anadlu.
Eto i gyd, mae ein coetiroedd brodorol bellach bron â diflannu. Dim ond 13% o’r DU sydd wedi’i orchuddio gan goetiroedd – un o’r ffigurau isaf yn Ewrop – ac mae hanner hyn yn blanhigfeydd anfrodorol, nad ydynt yr un mor fuddiol i fywyd gwyllt. Yn anffodus, dim ond 2.5% o’n ynysoedd gwyllt sy’n goetir hynafol gwerthfawr.
Mae llawer o’n coed wedi cael eu clirio ar gyfer tir fferm a thai. Rydyn ni wedi disodli llawer o’r coetir brodorol gyda choed anfrodorol sy’n tyfu’n gyflym fel adnodd ar gyfer llosgi ac adeiladu. Mae’r darnau ynysig o goetir sy’n weddill mewn perygl oherwydd datblygiadau, rhywogaethau goresgynnol (fel gwiwerod llwyd a rhododendron), clefydau a’r hinsawdd sy’n newid.
Mae angen inni warchod ein coetiroedd sy’n weddill, gan wneud y mannau arbennig hyn hyd yn oed yn well ar gyfer bywyd gwyllt. Ac mae angen i ni eu hadfywio drwy blannu’r coed iawn yn y mannau iawn er mwyn i goetiroedd y dyfodol allu ein helpu i frwydro yn erbyn newid yn yr hinsawdd a helpu bywyd gwyllt ein coetiroedd sy’n dirywio’n gyflym i wella hefyd.
Mae ein coetiroedd brodorol yn gysylltiadau byw â’n gorffennol, ond maen nhw hefyd yn rhan hanfodol o’n presennol, a hebddynt, ni fydd gennym ddyfodol. Os ydyn ni gyd yn gweithio gyda’n gilydd – llywodraethau, tirfeddianwyr, sefydliadau ac unigolion – gallwn ddal i ddod â’n coetiroedd yn fyw.
Mae 4,000M
tunnell o garbon wedi’i storio yng nghoedwigoedd y DU
Mae 7%
o goedwigoedd brodorol mewn cyflwr da ar gyfer byd natur
Mae 1,225
o goedwigoedd hynafol y DU dan fygythiad ar hyn o bryd
Yn noddfa i filoedd o rywogaethau, coetiroedd yw ein cynefin mwyaf toreithiog ac amrywiol.
Mae ein bywyd gwyllt yn anhygoel - ond mae mewn perygl. Mae WWF, yr RSPB a’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol yn gweithio gyda’i gilydd i ddod â byd natur yn ôl o ymyl y dibyn. Mae angen pawb arnom. Dysgwch sut gallwch chi fynd yn wyllt unwaith yr wythnos, a gyda’n gilydd gallwn ni achub ein ynysoedd gwyllt.