Mae’r ffordd rydyn ni’n pysgota ein moroedd yn niweidio ein hecosystem fregus – mae angen i ni weithredu’n gyflym.
Mae pysgod yn bryd poblogaidd iawn yma yn y DU, ond mae'r ffordd rydyn ni’n eu dal a faint rydyn ni’n ei ddal yn cael effaith fawr ar gynefinoedd ein môr. Gyda'n gilydd, gallwn roi cyfle teg i’n mannau arbennig ar gyfer byd natur, a’r bywyd morol maen nhw’n ei gefnogi, gael eu hadfer.
Rydyn ni’n bwyta 167 miliwn dogn o bysgod a sglodion y flwyddyn yn y DU ac mae ein bwydlenni, ein cownteri pysgod ac oergelloedd archfarchnadoedd yn cynnig amrywiaeth diddiwedd o fwyd môr o eog a thiwna i gregyn bylchog a chimychiaid. Ond mae’r ffordd rydyn ni’n pysgota yn effeithio ar niferoedd y boblogaeth yn ogystal â’r amgylchedd morol y mae llawer o’r rhywogaethau hyn yn dibynnu arnyn nhw.
Ystyriwch bysgota â thynrwydi: mae’r dull hwn yn cael ei ddefnyddio i ddal 95% o gregyn bylchog y DU, mae’n golygu llusgo rhwydi trwm iawn gyda dannedd metel dros wely’r môr, ac yn aml mae’n dinistrio popeth yn ei lwybr. Yn ogystal â chregyn bylchog, mae llawer o rywogaethau eraill yn cael eu dal yn y rhwyd a’u lladd, sy’n cael ei alw’n sgil-ddalfa.
Mae gorbysgota – lle mae cymaint o bysgod yn cael eu cymryd fel bod poblogaethau’n cael trafferth adfer – yn broblem fawr arall sy’n wynebu bywyd gwyllt ein moroedd. Heddiw, mae tua thraean o stociau pysgod y DU yn cael eu gorbysgota. Mae hynny’n lleihau faint o fwyd sydd ar gael i lawer o rywogaethau, gan gynnwys un o’n hadar môr sydd dan y bygythiad mwyaf: y gwylanod coesddu.
Bob gwanwyn, mae’r gwylanod hardd hyn yn dychwelyd i’n glannau ac yn heidio i nythfeydd swnllyd ar ochr y clogwyni. Yma maen nhw’n magu eu cywion gwyn blewog ar lymrïaid sy’n llawn olew. Ond mae ein poblogaeth o lymrïaid mewn perygl oherwydd newid yn yr hinsawdd, ac mae gorbysgota’n gwneud pethau’n waeth fyth.
Colli llymrïaid yn nyfroedd y DU yw’r prif reswm pam mae nythfeydd o wylanod coesddu yn diflannu. Ond mae llymrïaid hefyd yn cynnal gwe fwyd forol gyfan, ac maen nhw’n hanfodol i bysgod mwy, morfilod, morloi a llawer o rywogaethau eraill o adar y môr, gan gynnwys palod. Ac er mai arferion pysgota anghynaliadwy yw un o’r bygythiadau mwyaf i’n bywyd morol, maen nhw hefyd yn effeithio ar bysgotwyr, sy’n gorfod ymdrechu mwy i ddal llai a llai o bysgod.
Drwy roi’r gorau i arferion niweidiol, gosod cwotâu pysgota cynaliadwy a drwy fonitro’n effeithiol ar y môr, gallwn helpu i adfer poblogaethau pysgod. Gallwch chi helpu hefyd drwy ddewis pysgod o ffynonellau cynaliadwy pan fo’n bosibl neu ofyn i’ch archfarchnad ei gyflenwi. Gyda’n gilydd, gallwn newid y rhagolygon ar gyfer ein dyfroedd cythryblus.
Mae ateb i bob perygl, ac mae’r frwydr eisoes wedi dechrau i warchod ac adfer ein hynysoedd gwyllt. Cewch eich ysbrydoli gan y straeon hyn o obaith wrth i bob un ohonom chwarae ein rhan.